Omschrijving
Ailadroddiad trawiadol o chwedlau clasurol y Brenin Arthur gan y tîm arbennig o'r awdures Siân Lewis a'r darlunydd Graham Howells. Mae'r llyfr moethus, lliwgar, argraffiad clawr caled hwn yn cynnwys yr holl chwedlau enwog am y Brenin Arthur yn cynnwys yr Antur am y Greal Sanctaidd, Breuddwyd Myrddin a Brwydr Camlan.
Dyma gyfrol a’m swynodd i a fy mab o’r darlleniad cyntaf. Fel hyn y dechreua’r stori: “Roedd hi’n fore cynta’r gwanwyn yng Nghoed Eryri. Disgleiriai’r haul drwy frigau’r pren afalau, a chripian tuag at y ddau oedd yn cysgu islaw." Yn raddol fe’n tynnir i mewn i freuddwyd Myrddin, yna i lys Uthr Bendragon a’r helyntion gwaedlyd a rhyfeddol sy’n dilyn. Ond cyn hynny, cawn gipolwg ar fapiau o Brydain a Chymru Arthur, yn ogystal â chael ein cyflwyno i Farchogion y Ford Gron. Nid cyfrol i ruthro drwyddi mo hon, ac mae gosod Arthur yn ei gyd-destun ar y cychwyn yn talu ar ei ganfed wrth i’r stori ddatblygu. Serch hynny, nid oes arlliw o flas gwers hanes ar y llyfr! Mae’r antur yn symud yn ei blaen yn chwim, yr ysgrifennu’n llawn cyffro a’r disgrifiadau’n pefrio heb fod yn orflodeuog. Cawn foeswersi cynnil ond pwysig yn sgil doethineb cymeriad Arthur, ac mae’r rheiny’n cyferbynnu â chynnwrf y brwydrau treisgar. Tydw i ddim yn gymwys i farnu’r gyfrol ar sail ei chywirdeb hanesyddol (neu chwedlonol), ond gallaf ddweud i sicrwydd fod unrhyw liw a manylion wedi eu hychwanegu i bwrpas, a hynny mewn modd hynod effeithiol. Cryfder y llyfr ydi ei fod yn eich cymell i droi i’r dudalen nesaf o hyd – ac anodd ydi ei roi i lawr, er bod llygaid fy mab Maelgwn chwe blwydd oed yn dechrau cau! Ac yntau’n sgut am ffilmiau Star Wars, mae’n gweld tebygrwydd yng nghymeriad Arthur a’r arwr arall hwnnw, Luke Skywalker, ac arlliw o hud a lledrith ei lightsaber yng nghleddyf Caledfwlch. Yn wir, mae digon o ddigwydd, dirgelwch ac antur yn y gyfrol i ddigoni chwaeth a chynhyrfu dychymyg hyd yn oed y bechgyn (neu’r genethod) mwyaf galactig eu chwaeth. Mae’r penodau wedi eu saernïo’n gelfydd, fel y byddai disgwyl gan awdures mor brofiadol â Siân Lewis, a darluniau cain a thrawiadol Graham Howells yn atgyfnerthu’r disgrifiadau lliwgar yn yr ysgrifennu. Dyma gyfrol i’w mwynhau a’i thrysori.